Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 28 Ionawr 2021
Amser:
09.15 -
12.17
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11157
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Lynne Neagle AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Hefin David AS Suzy Davies AS Siân Gwenllian AS Laura Anne Jones AS |
Tystion: |
Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru Rachel Thomas, Rachel Thomas, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus – Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru Y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a Llefarydd ar Addysg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Y Cynghorydd Ellen Ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a Dirprwy Lefarydd ar Addysg a'r Gymraeg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Y Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Llefarydd ar y Gweithlu, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llefarydd ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Sharon Davies, Pennaeth Addysg ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Sian Thomas (Ymchwilydd) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Phil Boshier (Ymchwilydd) Sian Hughes (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Ni chafwyd
dim ymddiheuriadau.
2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiynydd Plant Cymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru ar faterion yn ymwneud ag effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc.
3 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr Llywodraeth Leol
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr llywodraeth leol ar faterion yn ymwneud ag effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc.
3.2 Oherwydd diffyg amser, cytunwyd y byddai cwestiynau nas cyrhaeddwyd yn cael eu hanfon at y tystion ar gyfer ymateb ysgrifenedig.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Nodwyd y
papur.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y
cynnig.
6 Covid-19 – trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i fynd ar drywydd rhai o'r materion a godwyd yn ystod y sesiynau.
7 Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-2021 - Trafod yr adroddiad drafft
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Er mwyn bodloni’r dyddiad cau ar gyfer adrodd sef dydd Mawrth 2 Chwefror 2021, cytunodd yr aelodau i ystyried diwygiadau terfynol a chytuno ar yr adroddiad yn electronig.